Archimedes
Mathemategydd, seryddwr a pheiriannydd o'r Hen Roeg oedd Archimedes (c.287 CC - 202 CC). Ganwyd yn Siracusa, dinas Roegaidd ar arfordir dwyreiniol ynys Sisili.Roedd ymhlith yr enwocaf o fathemategwyr yr Henfyd ac un o'r ymenyddol rymusaf a fu erioed. Mae'n cael ei gofio yn y traddodiad poblogaidd am ddefnyddio peiriannau gwrth-warchae yn erbyn llynges y Rhufeiniaid (Crafanc Archimedes), am y sgriwiau codi dŵr sy'n dwyn ei enw, ac am weiddi ''Eureka!'' yn y baddon pan ddarganfu gyfrinach y grym sy'n peri i gorff arnofio ar wyneb dŵr. Dywedir iddo gael ei ladd gan filwyr Rhufeinig yn gwarchae Siracusa - roedd o'n canolbwyntio cymaint ar weithio allan rhyw broblem fathemategol yn ei ben fel na sylwodd ar yr hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas.
Ymddengys iddo ymweld â'r Aifft ac astudio yn Alecsandria, prifddinas dysg y cyfnod. Mae ei bwysigrwydd yn hanes mathemateg yn gorffwys ar ei ddarganfyddiadau o fformiwlâu am faint a chyfaint sfferau, silindrau, parabolau a ffigyrau gwastad a solet eraill, gwaith a ragflaenodd ddarganfyddiadau yn yr un meysydd yn Ewrop yn yr 17g. Sefydlodd yn ogystal wyddor hydrostateg. Yn anffodus mae ei waith seryddol ar goll ers canrifoedd ac rydym yn dibynnu ar gyfieithiadau o'r Roeg i'r Arabeg am nifer o'i weithiau eraill. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan EuclidAwduron Eraill: “...Archimedes...”
Cyhoeddwyd 1729
Location: William H. Hannon Library, Loyola Marymount University
Llyfr -
2gan EuclidAwduron Eraill: “...Archimedes...”
Cyhoeddwyd 1791
Location: John J. Burns Library, Boston College
Llyfr -
3gan Tacquet, André, 1612-1660Awduron Eraill: “...Archimedes...”
Cyhoeddwyd 1725
Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
Llyfr