Ian McKellen
Actor llwyfan a ffilm Seisnig yw Syr Ian Murray McKellen (ganwyd 25 Mai 1939). Yn ystod ei yrfa mae ef wedi derbyn Gwobr Tony a dau enwebiad am Wobrau'r Academi. Amrywia ei waith o ddramâu Shakesperaidd i theatr fodern a ffilmiau gwyddonias. Mae'n adnabyddus i nifer fel cymeriad Gandalf yn y tair ffilm ''Lord of the Rings'' ac fel Magneto yn y ffilmiau ''X-Men''.Ym 1988, daeth allan fel dyn hoyw a daeth yn un o'r bobl a sefydlodd "Stonewall", un o fudiadau hawliau LHDT mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig. Mae'n parhau i fod yn lefarydd blaenllaw ar eu rhan.
Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1979 a chafodd ei urddo yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1991 am ei waith a chyfraniad eithriadol i'r theatr. Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2008, derbyniodd "Companion of Honour" (CH) am ei wasanaethau i ddrama a chydraddoldeb. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y wobr CH iddo gan y Frenhines, cyfeiriodd y swyddog o Balas Buckingham at ei "wasanaeth i ddrama" yn unig, rhywbeth a ddigiodd McKellen. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Cyhoeddwyd 2004Awduron Eraill: “...McKellen, Ian...”
Location: Raynor Memorial Libraries, Marquette University
Fideo DVD -
2Cyhoeddwyd 2002Awduron Eraill: “...McKellen, Ian...”
Location: Raynor Memorial Libraries, Marquette University
Fideo DVD -
3Cyhoeddwyd 2004Awduron Eraill: “...McKellen, Ian...”
Location: Raynor Memorial Libraries, Marquette University
Fideo DVD